Maint y Ffont A A A
Cyferbyniad Uchel
Ffôn: 01248 384395
Amdanom Ni > Ateb eich Cwestiynau

Yr elusen ar gyfer gofal iechyd gwell yng
Ngogledd Cymru

Ymuno gyda’n gilydd

Bod yn bositif
gyda ni

Dyfodol gwell
gyda ni

Gwneud gwahaniaeth
gyda ni

Cael hwyl
gyda ni

Ateb eich Cwestiynau

Darllenwch yr atebion isod

Darllen mwy >

“Pam nad ydy’r GIG yn ariannu’r pethau y mae  Awyr Las yn eu cefnogi?
Pam ddyliwn i gyfrannu arian i elusen ymchwil canser, gofal canser, gwarchod plant a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl a finnau yn talu trethi?”

Bill Williams, Bangor

Darllen mwy >

Mae cefnogaeth elusennol drwy’r blynyddoedd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion a’u teuluoedd mewn ysbytai ac yn y gymuned, oherwydd y ‘pethau braf i’w cael’ – y cyfarpar diweddaraf neu’r prosiectau ychwanegol –
sydd yn gwneud y fath wahaniaeth, ond nad ydynt ar gael trwy’r GIG.

“Mae costau rhedeg gwasanaethau GIG ar draws Gogledd Cymru yn sylweddol iawn. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yng Ngogledd Cymru roedd yn ddyddiol yn costio: £35,592 i redeg gwasanaethau Damweiniau a Brys; £63,905 i redeg wardiau llawfeddygol a £67,146 i redeg y Prif Theatrau. Mae arlwyo mewn ysbytai yn costio £24,517  ar gyfartaledd ac mae cludiant cleifion yn costio £10,470 bob dydd. Cynhelir ar gyfartaledd 6,812 o brofion patholegol yn ddyddiol yng Ngogledd Cymru, ar gost o £52,288.

Un o’r ystadegau mwyaf brawychus yw costau cyffuriau yng Ngogledd Cymru;
caiff £5.03 ei wario bob eiliad o bob dydd ar gyffuriau. Golyga hyn £302 y munud, £18,113 yr awr neu  £435,000 y dydd. Gyda chostau yn wastad yn cynyddu,
ni all y GIG dalu am y pethau ychwanegol – mawr na bach – sydd yn gwneud gwahaniaeth amlwg i brofiad cleifion ac amgylchedd ysbyty.”

Nigel McCann,
Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Darllen mwy >

“Beth sy’n digwydd os byddaf yn cyfrannu tuag at Awyr Las, ond heb nodi
union beth wyf am ei gefnogi? I ble bydd fy arian yn mynd?”

Gwenno Jones, Llangefni

Darllen mwy >

“Nid yw’r meysydd sydd yn rhoi pwysau cynyddol ar y GIG bob amser yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth. Er enghraifft, mae problemau iechyd meddwl yn cyfrif am 11% o holl wariant y GIG yng Ngogledd Cymru ac mae problemau cylchrediad, gan gynnwys clefyd y gallon a chlefyd  serebrofasgwlaidd yn cyfrif am 10%.”

Nigel McCann,
Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol,  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Nid yw’r meysydd hyn yn denu cymaint o sylw ag ambell un arall, ond gallai codi arian a gwneud rhoddion i’r meysydd hyn wneud gwahaniaeth enfawr i gleifion
a’u teuluoedd a’u cyfeillion – sef i nifer fawr o bobl yng Ngogledd Cymru.

Mae’r Tîm Cefnogi Codi Arian a gwirfoddolwyr  Awyr Las yn gweithio’n agos gyda staff gofal iechyd er mwyn sicrhau bod cymwynaswyr yr elusen – cleifion a’u teuluoedd – ymysg y rhai fydd yn penderfynu i ble dylai’r rhoddion gael eu cyfeirio.

Mae cleifion yn cael llais uniongyrchol yn y penderfyniad ynghylch y meysydd a ddylai dderbyn cefnogaeth; trwy gasglu a monitro atborth oddi wrth gleifion a theuluoedd yn rheolaidd, bydd staff gofal iechyd yn adnabod adnoddau a chyfarpar, cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant, gwelliannau cyfalaf a gwasanaethau ychwanegol nad ydynt ar gael trwy’r GIG ond a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion a’u teuluoedd.

Caiff holl aelodau staff eu hannog i awgrymu sut y gall codwyr arian a rhoddwyr wneud gwahaniaeth pendant i fywydau cleifion a’u teuluoedd yng Ngogledd Cymru. Yna bydd uwch staff gofal iechyd yn yr ysbytai ac yn y gymuned yn blaenoriaethu’r awgrymiadau hyn ac yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Cefnogi Codi Arian, gwirfoddolwyr a chymwynaswyr  Awyr Las er mwyn cytuno sut y bydd canfyddiadau ymchwil,  tystiolaeth ac anghenion cleifion yn ffurfio ffocws a blaenoriaethau Awyr Las.

Bydd y Tîm Cefnogi Codi Arian yn rhoi diweddariad cyson i’r holl roddwyr a’r rhai sydd yn ymwneud â’r elusen er mwyn gadael iddynt wybod ym mhle bydd eu cyfraniadau gwerthfawr yn gwneud gwahaniaeth a sut y gallai ymgyrchoedd
codi arian yn y dyfodol wneud gwahaniaeth hefyd.

Os ydych am rannu eich syniadau ynghylch y modd y gall rhoddion a chodi arian wneud gwahaniaeth i gleifion yn eich ardal chi, neu os hoffech wybod rhagor ynghylch y modd y caiff anghenion eu blaenoriaethu gan Awyr Las, cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Codi Arian. Fe fyddem wrth ein boddau yn clywed gennych!

Darllen mwy >

“Pwy sy’n penderfynu i ble dylai’r arian fynd? 

Owain Roberts, Rhuthun

Darllen mwy >

Rydym yn canolbwyntio ar y rhoddwyr ac yn derbyn arweiniad gan gleifion. Golyga hyn ein bod bob amser yn ystyried dymuniadau rhoddwyr ac yn sicrhau os yn bosibl bod pob rhodd yn cael ei defnyddio er budd y cleifion yr ydych chi am eu cefnogi (i.e. os ydych yn dymuno cefnogi’r Uned Seren Wib yn Wrecsam, bydd eich rhodd
yn cefnogi cleifion sydd yn derbyn triniaeth yn yr Uned Seren Wib.

Rydym yn awyddus i roddwyr fod yn rhan o’r penderfynu os yn bosibl, ond yn y diwedd dylai’r penderfyniadau terfynol ynghylch sut y gall eich rhodd fod o gymorth i gleifion gael eu cymryd gan staff gofal iechyd sydd eisoes wedi blaenoriaethu’r anghenion pennaf yn y meysydd penodol hynny – dyna yw teimlad y cleifion a’u teuluoedd.

Ar y funud mae’r Tîm Cefnogi Codi Arian yn gweithio gyda staff gofal iechyd i sefydlu Rhwydwaith Hyrwyddwyr Elusen, yn y 3 ysbyty fwyaf i gychwyn ac yna ledled Gogledd Cymru. Aelodau staff gofal iechyd yn gweithio gyda’r cleifion ar
y wardiau ac yn y gymuned yw’r hyrwyddwyr. Bydd y rhwydwaith
yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau bosibl i roddwyr ac ar yr un pryd yn ein helpu i ddeall anghenion cleifion yn well.

Caiff cleifion eu hannog i roi atborth a bydd rhai yn llenwi holiaduron blynyddol, bydd y wybodaeth a gawn o’r rhai hyn yn cael eu hanfon ymlaen i Lywodraeth Cymru. Caiff awgrymiadau’r cleifion a barn y gweithwyr proffesiynol ar sut y gellir gwella gofal a thriniaeth eu dwyn at ei gilydd i ffurfio rhestr  o’r hyn sydd ei angen. Yna bydd staff gofal iechyd a’u rheolwyr clinigol yn eu blaenoriaethu. Bydd cleifion a staff gofal iechyd yn argymell sut y gall grantiau trwy Awyr Las wneud gwahaniaeth.

Bydd Ymddiriedolwyr yr elusen yn gwrando ac yn trafod barn pawb fydd yn cyflwyno awgrymiadau a hwy fydd â’r cyfrifoldeb terfynol am sicrhau bod eich cefnogaeth chi yn cael ei gyfeirio tuag at feysydd blaenoriaeth sydd yn unol â’ch dymuniad chi, sef y rhoddwr.

“Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw Ymddiriedolwr Corfforaethol yr Elusen. Mae gan bob un o aelodau’r Bwrdd rôl fel cynrychiolydd yr Ymddiriedolwr  a byddant eu hunain yn gweithredu fel  Ymddiriedolwyr.

Mae’n ofynnol iddynt trwy gyfraith ymddwyn er budd gorau’r Elusen, a chadw eu
rôl o fewn y Bwrdd Iechyd ar wahân yn hollol.

Y Comisiwn Elusennau sydd yn gosod y rheolau a’r rheoliadau ynghylch rheoli elusennau, ac yn sicrhau y caiff Awyr Las ei reoli’n ddoeth ac er budd pobl
Gogledd Cymru.”

Huw Thomas,
Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol,  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Darllen mwy >